Dear Colleagues,

On the 12th and 13th of May 2021, WISE KIDS is delighted to be hosting 2 free online interactive workshops which will also feature guest panellists.

  • “In My Own Words” – Understanding Young People’s Online Experiences (A Workshop for Professionals/Parents/Carers)
    TikTok, Fandom, eSports! Do you know what young people enjoy online? Do you know what troubles them online? Do you know why? Are you curious about what they want adults to know?
  • “Let’s Get Digitally Smart” (A Workshop for Young People aged 12-16)
    Are you a parent/carer who wants their child to be a critical thinker and digitally smart, safe and kind online?

These workshops are part of a WISE KIDS series to support young people’s digital literacy and wellbeing. 

You are invited to come along to learn more – registration details below!

Both workshops will be facilitated by Dr Sangeet Bhullar from WISE KIDS. Workshop 2 will also feature presentations from pupils from Cardiff High School and Risca Comprehensive, and guest panellist Dr Huw Davies (Lecturer in Digital Education at Edinburgh university), Becki Bawler (Senior Leader and Teacher from Risca Comprehensive School), Luiza Bivolaru (Senior Practitioner from the South East Wales Adoption Service), Natasha Evans (Chair of the Merthyr Tydfil branch of the National Autistic Society) and Noah Shepherd (Youth Worker at Treharris Boys & Girls Club).

============================================================================

Annwyl Gydweithwyr,

Ar 12 ac 13 Mai 2021, mae’n bleser gan WISE KIDS gynnal 2 weithdy rhyngweithiol ar-lein yn rhad ac am ddim, a fydd yn cynnwys panelwyr gwadd hefyd.

  • “Yn Fy Ngeiriau I” – Deall Profiadau Ar-lein Pobl Ifanc (Gweithdy i Weithwyr Proffesiynol/Rhieni/Gofalwyr)
    TikTok, Fandom, eSports!  A ydych chi’n gwybod beth mae pobl ifanc yn ei fwynhau ar-lein?  A ydych chi’n gwybod yr hyn sy’n eu poeni ar-lein?  A ydych chi’n gwybod pam?  A ydych chi’n chwilfrydig am yr hyn y maent yn dymuno i oedolion ei wybod?
  • “Bod yn Ddigidol Glyfar” (Gweithdy i Bobl Ifanc 12-16 oed)
    A ydych chi’n rhiant/gofalwr sy’n dymuno i’w plant fod yn rhywun sy’n meddwl mewn ffordd feirniadol ac sy’n glyfar yn ddigidol, gan fod yn ddiogel ac yn garedig ar-lein?

Mae’r gweithdai hyn yn rhan o gyfres WISE KIDS i gynorthwyo lles a llythrennedd digidol pobl ifanc.

Estynnir gwahoddiad i chi fynychu a dysgu mwy – nodir y manylion cofrestru isod!

  • Bydd Gweithdy 1 (12 Mai 2021, 4pm-5pm) ar gyfer pobl ifanc 12-16 y byddant yn mynychu gyda’u rhiant/gofalwr, ac y mae’n rhaid iddynt lenwi’r ffurflen gofrestru hon:
    https://forms.gle/UzrYGyk6XJ8WViRt7
  • Bydd Gweithdy 2 (13 Mai 2021, 5.15pm-6.30pm) ar gyfer oedolion (rhieni/gofalwyr/gweithwyr proffesiynol), ac y mae’n rhaid iddynt lenwi’r ffurflen gofrestru hon.
    https://forms.gle/hsc3GxguWqJMAdQT8

Hwylusir y ddau weithdy gan Dr Sangeet Bhullar o WISE KIDS.   Bydd Gweithdy 2 yn cynnwys cyflwyniadau gan ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Caerdydd a Ysgol Gyfun Rhisga hefyd, ynghyd â phanelwyr gwadd, Dr Huw Davies (Darlithydd mewn Addysg Ddigidol ym mhrifysgol Caeredin), Becki Bawler (Arweinydd Uwch ac Athrawes yn Ysgol Gyfun Rhisga), Luiza Bivolaru (Ymarferydd Uwch o Wasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru), Natasha Evans (Cadeirydd cangen Merthyr Tudful o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol) a Noah Shepherd (Gweithiwr Ieuenctid yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treharris).