========Due to Her Majesty the Queen’s passing and funeral on the 19th of September, we have amended the date of our free webinar from the 19th to the 26th of Sept.==========

As part of Adult Learners’ Week, Dr Sangeet Bhullar from WISE KIDS is offering parents/carers/professionals across Wales a free 90 minute online webinar entitled:

‘Promoting Digital Wellbeing and Digital Resilience for Your Child’

This webinar will provide an overview of the changing online digital landscape and the opportunities and challenges this can present to children and young people. It will help parents/carers/professionals understand how they can develop their children’s critical thinking, digital literacy and digital wellbeing in an age-appropriate way so they are better able to use the Internet positively and safely. The webinar will also share practical resources and strategies participants can use to support them in this role.
This interactive webinar will take place on Monday the 26th of Sept from 5.15pm to 6.45pm – online on Microsoft Teams.

You can register here:

https://forms.gle/Wb3acj1oZN1nNwx5A

All registrants will received joining details one week before the event.

This workshop is kindly supported by the Learning and Work Institute in Wales, as part of Adult Learners’ Week.

==============================================

Fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion, mae Dr Sangeet Bhullar o WISE KIDS yn cynnig gweminar ar-lein 90 munud am ddim i rieni/gofalwyr/gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru, o’r enw:

Hyrwyddo Lles Digidol a Chydnerthedd Digidol ar gyfer Eich Plentyn’

Bydd y weminar hon yn cynnig trosolwg o’r tirlun digidol ar-lein sy’n newid, a’r cyfleoedd a’r sialensiau y gall hyn eu cyflwyno i blant a phobl ifanc.  Bydd yn helpu rhieni/gofalwyr/gweithwyr proffesiynol i ddeall sut y gallant feithrin sgiliau meddwl beirniadol eu plant, eu llythrennedd digidol a’u lles digidol mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran, fel eu bod yn gallu defnyddio’r Rhyngrwyd mewn ffordd fwy cadarnhaol a diogel.  Yn ogystal, bydd y weminar yn rhannu strategaethau ac adnoddau ymarferol y gall cyfranogwyr eu defnyddio i’w cynorthwyo yn y rôl hwn.

Cynhelir y weminar ryngweithiol hon ar nos Lun 26 Medi rhwng 5.15pm a 6.45pm – ar-lein ar Microsoft Teams.

Gallwch gofrestru yma:
https://forms.gle/Wb3acj1oZN1nNwx5A

Bydd yr holl rai sy’n cofrestru yn cael y manylion er mwyn ymuno wythnos cyn y digwyddiad.

Cefnogir y gweithdy hwn yn garedig gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion.