(In English)
Dyddiad: 13 Ionawr; Amser: 8.45pm – 3.30pm;
Lleoliad: Ysgol y Grango, Vinegar Hill, Rhosllanerchrugog, Wrecsam LL14 1EL; Costau: £50 (Yn cynnwys lluniaeth a chinio).
Cofrestrwch ar gyfer ein cynhadledd hyfforddiant cynradd trwy glicio ar y ddolen hon a llenwi’ch ffurflen gofrestru.
Cyflwyniad
Rydym yn byw mewn oes lle y gwelir mwy o gysylltedd gyda’r Rhyngrwyd trwy gyfrwng bron pob dyfais fel ffôn clyfar, consol chwarae gemau, iPad neu gyfrifiadur. Nid yn unig y mae’r Rhyngrwyd yn cynnig cyfleoedd addysgu, dysgu, cymdeithasu a rhwydweithio gwych, ond mae’n trawsnewid cymdeithas, bywyd teuluol, a’r ffordd yr ydym yn gwneud y pethau hyn i gyd hefyd. Mae gwasanaethau fel Instagram, YouTube, Facebook, Twitter, chwarae gemau ar-lein ac apiau negeseua cymdeithasol fel Whatsapp, Kik, iMessenger yn cynyddu ein gallu i gynnal cysylltiad parhaol gyda’n rhwydweithiau ar-lein.
Mae’r datblygiadau newydd hyn yn cynnig nifer o fanteision cadarnhaol, ond mae modd iddynt arwain at sialensiau hefyd, y mae angen i rieni, gofalwyr, addysgwyr ac eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc fod yn ymwybodol ohonynt – a’u rheoli. Mae modd i’r rhain amrywio o faterion fel seiberfwlio, hacio cyfrifon, rhannu cyfrineiriau, i faterion sy’n ymwneud â gorddefnydd, troi at gynnwys amhriodol a gemau amhriodol, rhannu data a gwybodaeth bersonol mewn ffordd ormodol, a chynnal preifatrwydd.
Wrth i fwy a mwy o blant droi at y Rhyngrwyd a gwasanaethau cysylltiedig pan fyddant yn iau, mae’n hanfodol bod addysgwyr, rhieni a gofalwyr ac eraill sy’n gweithio gyda nhw, yn gallu eu cynorthwyo i feithrin eu sgiliau meddwl beirniadol, eu dealltwriaeth o sut y mae technolegau ar-lein yn gweithio, a’u rolau a’r rolau y gallant eu cyflawni wrth helpu eu hunain a’u ffrindiau i fod yn ddiogel ac yn gyfrifol ar-lein.
Y Gynhadledd Hyfforddiant Hon
Nod y rhaglen hyfforddiant ryngweithiol hon yw cynnig y darlun diweddaraf i athrawon cynradd o’r technolegau ar-lein newydd, ynghyd â photensial y rhain er mwyn meithrin dealltwriaeth plant o’r byd digidol a’u rôl nhw ynddo. Yn ogystal, bydd yn archwilio materion sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein, gan geisio helpu athrawon cynradd i ddarganfod y ffyrdd mwyaf effeithiol o helpu plant i ddeall sut i fod yn ddiogel ar-lein ac all-lein. Bydd y cyfranogwyr yn cael cipolwg ymarferol hefyd o’r ffyrdd gorau o hyrwyddo diwylliant o les a ‘dinasyddiaeth ddigidol’ mewn ysgolion cynradd.
Deilliannau’r Gynhadledd Hyfforddiant
Trwy fynychu’r rhaglen hon, bydd modd i gyfranogwyr:
- Ddatblygu defnydd creadigol ac ymgysylltol o offerynnau ac adnoddau er mwyn hyrwyddo defnydd cadarnhaol o’r Rhyngrwyd a llythrennedd digidol ar gyfer disgyblion cynradd.
- Datblygu strategaethau a chysyniadau ymarferol er mwyn mynd i’r afael â diogelwch ar-lein mewn ffordd sy’n briodol i oedrannau’r plant.
- Datblygu strategaethau ymarferol er mwyn hyrwyddo ymgysylltu rhieni a llythrennedd digidol rhieni yn y cyfnod cynradd.
- Creu dull gweithredu ar gyfer yr ysgol gyfan tuag at ddatblygu dinasyddiaeth ddigidol.
- Defnyddio technegau blogio byw yn hawdd yn eu hystafelloedd dosbarth.
- Datblygu cynllun gweithredu (ar gyfer dull gweithredu ysgol gyfan tuag at les a dinasyddiaeth ddigidol).
- Troi at safle ar-lein fel adnodd er mwyn cynorthwyo’r hyfforddiant
Ffurf
Yn ogystal, bydd yr holl gyfranogwyr yn ystyried y defnydd o flogiau ac offerynnau aml-gyfrwng, oherwydd y byddant yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a gweithgareddau myfyriol, a byddant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch ‘blogio byw’. Bydd rhai o’r arddangosiadau yn cynnwys defnyddio Twitter hefyd, gan ddefnyddio hashnod dynodedig ar gyfer y digwyddiad hyfforddi.
Adnoddau
Yn ogystal, rhoddir y cyfle i’r holl gyfranogwyr fanteisio ar wefan wedi’i chreu yn arbennig, ac a fydd yn cynnwys dolenni i’r deunydd a gyflwynwyd, y clipiau fideo a ddefnyddiwyd a dolenni defnyddiol eraill.
Nodiadau Hanfodol
Fel rhan o’r diwrnod hwn o hyfforddiant rhyngweithiol, bydd yr hyfforddwr a’r cyfranogwyr yn defnyddio peiriannau recordio yn y llaw/camerâu/ffonau clyfar er mwyn creu allbwn aml-gyfrwng a ddefnyddir yn sesiynau arddangos y diwrnod hyfforddi. Yn ogystal, efallai y defnyddir rhywfaint o’r cynnwys yn ein blogiau/ deunyddiau hyrwyddo. Anogir y cyfranogwyr i ddod â’u dyfeisiau eu hunain i mewn gyda nhw.